Nwy yw deuocsid carbon sy'n digwydd yn naturiol yn yr atmosffer. Wrth
i blanhigion dyfu, maent yn sugno deuocsid carbon sy'n cael ei gyfuno â dŵr
i greu siwgrau syml. Yna, caiff y rhain eu troi yn gyfansoddiadau mwy cymhleth
sy'n ffurfio adeiladwaith y planhigyn. Daw'r ynni ar gyfer y broses hon
(ffotosynthesis) o'r haul.

Pan mae planhigyn yn marw, yn llosgi neu'n cael ei fwyta gan anifail,
caiff y deuocsid carbon ei ryddhau unwaith eto i'r atmosffer. Mae'r cylch
carbon yn helpu i greu amgylchedd sefydlog i bob creadur byw, gan gynnwys
ni!
Roedd fforestydd cynhanesyddol yn sugno miloedd o dunelli o ddeuocsid
carbon i'r atmosffer. Wrth i'r blaned newid, cafodd y fforestydd eu claddu o dan y ddaear ac mae'r carbon yn dal yn y
coed.

Dros filiwn o flynyddoedd yn ôl, roedd gwres a phwysau yn troi'r
coed yn olew, glo a nwy. Yn y can mlynedd diwethaf, rydym wedi defnyddio
hanner tanwydd ffosil wrth gefn y blaned ar gyfer ynni a thrafnidiaeth
- gan ryddhau miloedd o dunelli o ddeuocsid carbon yn gyflym yn ôl
i'r atmosffer

Nid oes digon o blanhigion ar y ddaear i sugno'r holl nwy deuocsid carbon
ychwanegol hwn, felly, mae'n dianc i'r atmosffer. Mae'r deuocsid carbon
yn gadael haul i mewn ond yn adlewyrchu'r gwres yn ôl i wyneb y ddaear.
O dipyn i beth, mae tymheredd y ddaear yn codi.
Mae'n bosibl bod cynhesu byd-eang yn achosi lefelau'r môr i godi,
yr arfordiroedd i erydu a llifogydd. Mae'n gallu achosi sychdwr, gan arwain
at broblemau ynghylch cyflenwad dŵr a chnydau yn methu. Mae'n bosibl
ei fod hefyd yn arwain at dywydd eithafol, fel stormydd a chorwyntoedd,
sy'n achosi difrod sylweddol i adeiladau, ffyrdd ac adeiladwaith (cyflenwadau
cyfathrebu, dŵr a thrydan).

I arafu newid yn yr hinsawdd, mae holl wledydd Ewrop wedi cytuno i leihau'r
ynni a ddefnyddir i leihau'r carbon deuocsid maent yn eu cynhyrchu. Maent
efyd yn cynyddu'r defnydd a wneir o ffynonellau o ddefnyddiau adnewyddadwy.
I ddarganfod mwy am newid yn yr hinsawdd a sut gallwch chi helpu i leihau
allyriadau carbon, ymwelwch â'n tudalennau ar drafnidiaeth, y cysylltiadau â'r
we, y galeri luniau a fideo