tudalen hafan y stori ar ynni newid yn yr hinsawdd fideos ystadegau cysylltiadau â'r we gweithio gydag ynni Flash books

Defnyddiau Adnewyddadwy

Adnodd sy’n tyfu!

 

Yn Ewrop, mae ein ffordd o fyw yn dibynnu ar ein tanwydd ffosil. Crëwyd y rhain filoedd o flynyddoedd yn ôl o weddillion fforestydd cynhanesyddol.

 

Oddi tan y ddaear, trodd amser a phwysau y coed yn gaeau llawn olew, nwy a glo. Fodd bynnag, mae’r byd wedi defnyddio hanner y tanwydd yma ac mewn ychydig o ddegawdau, byddant wedi diflannu am byth.

 

Felly mae’n hanfodol bod Ewrop yn datblygu ffynonellau ynni diogel na fydd yn darfod; ynni gan yr haul, y gwynt, dŵr a phlanhigion.

 

girl with solar panel

 

Dyw ynni cynaliadwy ddim yn beth newydd. Am ganrifoedd, cynlluniwyd adeiladau i gadw gwres yr haul. Defnyddiwyd coed i gynhesu ac i goginio. Defnyddiwyd ynni’r gwynt i falu blawd ac i drosglwyddo nwyddau a phobl o gwmpas y byd ar longau hwylio mawr.

 

windmill

 

Dyw adnoddau ynni cynaliadwy ddim wedi newid, ond mae’r dechnoleg yn sicr wedi. Mae tyrbinau gwynt modern yn effeithiol iawn ac erbyn hyn, yn gallu cynhyrchu trydan ar gyfer miloedd o gartrefi yn Ewrop. Ac nid ydynt yn cynhyrchu unrhyw allyriadau carbon sy’n achosi cynhesu byd-eang.

 

boy with wind turbines

 

Hefyd, cynyddu mae pwysigrwydd ynni gan yr haul. Mae paneli

haul yn defnyddio system ffoto-foltäig sydd wedi’i wneud o

fathau arbennig o silicon. Mae'r rhain yn troi gwres yr haul yn

drydan.


 

solar thermal tubes

 

Ceir gwres a dŵr poeth o ynni thermal yr haul. Mae’r tiwbiau'n sugno gwres yr haul mewn dull sy’n effeithiol iawn ac yn pasio’r gwres i’r pibellau trwy’r tanc dŵr.

 

Mae llawer o ffyrdd eraill i ddefnyddio ynni gan yr haul. Edrychwch ar ein cysylltiadau â'r we â’r galeri o ffotograffau i ddarganfod mwy.

 

boy with hydro dam

 

Mae pŵer hydro yn ffynhonnell fawr o ynni mewn sawl gwlad Ewropeaidd, yn enwedig yng ngwledydd Llychlyn. Defnyddir argaeoedd i greu cronfeydd. Yna, mae dŵr yn tasgu i lawr pibellau serth ac fe’i defnyddir i droi tyrbinau sy'n cynhyrchu trydan. Eto, mae’r adnodd hwn yn gynaliadwy ac nid yw’n creu allyriadau carbon.

 

Y dull mwyaf amrywiol o ynni cynaliadwy yw biomas - ynni a gynhyrchir o ddeunyddiau biolegol. Mae llawer gwahanol ffynhonnell o fiomas, gan gynnwys gweddillion fforestydd, gwastraff bwyd, gwastraff anifeiliaid a chnydau ynni.

 

girl with miscanthus

 

Yn union fel mae grym natur wedi troi fforestydd cynhanesyddol yn olew, glo a nwy, gellir defnyddio technoleg i droi biomas yn danwydd caled, hylifol ac yn danwydd nwy.

 

Mewn gorsafoedd pŵer, gellir llosgi coed, gwellt a chnydau ynni, fel helygen a miscanthus, i greu trydan a gwres.

 

Gellir troi tail, gwastraff amaethyddol a bwyd yn fionwy. Gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu gwres a thrydan ac ynni ar gyfer trafnidiaeth.

 

biogas bus

 

Defnyddir dull eplesu i gynhyrchu bioethanol o gnydau ŷd a betys siwgr. Mae’r broses ddistyllu yn debyg iawn i’r un a ddefnyddir i wneud diodydd alcoholig. Gellir uno’r ethanol â’r petrol neu gellir ei ddefnyddio fel tanwydd mewn injan sydd wedi’i throsi’n arbennig.

 

Cynhyrchir biodiesel o rêp, blodau’r haul a chnydau olew eraill. Cymysgir olew llysiau wedi’i buro gydag alcohol i ffurfio ester. Gellir ei ddefnyddio fel tanwydd mewn injan ddiesel gonfensiynol.

 

Mae biodiesel a bioethanol yn cynhyrchu deuocsid carbon pan gânt eu llosgi mewn injan car. Fodd bynnag, mae cnydau yn sugno deuocsid carbon wrth dyfu. Felly, dyw biodanwydd ddim yn cyfrannu’n sylweddol tuag at gynhesu byd-eang.

 

I ddarganfod mwy am biodanwydd a defnyddiau adnewyddadwy eraill, edrychwch ar y cysylltiadau â'r we, y fideos a’r galeri luniau.


e-gardiau post

Dewiswch gynllun a'i anfon at ffrind.

y parth gemau

Rhowch brawf ar eich sgiliau gyda gemau ar-lein o bob cwr o'r byd.

lluniau

Edrychwch ar ein galeri luniau ynni rhad ac am ddim.

eich tudalennau

Mae ein ffurflen ar-lein yn gyflym ac yn rhwydd i'w llenwi - dywedwch wrth y byd am eich straeon ar ynni.