tudalen hafan y stori ar ynni newid yn yr hinsawdd fideos ystadegau cysylltiadau â'r we gweithio gydag ynni Flash books

Trafnidiaeth gynaliadwy

Ymunwch yn y chwyldro ar drafnidiaeth!

 

Yn y ganrif ddiwethaf, gweddnewidiwyd y byd gan yr injan losgi fewnol. Roedd yn galluogi pobl i deithio'n gynt ac yn bellach nag erioed, mewn car, awyren, cwch ac mewn trên.

 

Ond roedd pris ar ryddid newydd yr 20fed Ganrif. Wrth i fwy a fwy o bobl deithio mwy a mwy o filltiroedd, roedd sylffwr, plwm ac amrywiaeth o docsinau eraill yn cael eu rhyddhau i'r atmosffer. Roedd hyn yn gwenwyno'r amgylchedd - yn difrodi planhigion, anifeiliaid a phobl.

 

 

Fodd bynnag, y broblem fwyaf yw deuocsid carbon. Nwy yw hwn a gaiff ei gynhyrchu pan mae tanwydd yn cael ei losgi. Mae miloedd o dunelli o nwyon yn cael eu rhyddhau i'r atmosffer pob blwyddyn. Mae'r deuocsid carbon yn ffurfio haen sy'n adlewyrchu pelydrau'r haul yn ôl i'r ddaear, gan achosi newid yn yr hinsawdd.

 

Mae proffwydoliaethau gwyddonwyr yn amrywio ynglŷn â pha mor ddrwg â pha mor gyflym y bydd cynhesu byd-eang yn digwydd. Fodd bynnag, does dim amheuaeth bod newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar bawb yn Ewrop. Mae'n achosi tywydd eithafol - stormydd, llifogydd, sychder - a phroblemau amgylcheddol eraill.

 

Mae'r problemau hyn yn effeithio ar gnydau, anifeiliaid a chyflenwadau dwr - y pethau rydym yn dibynnu arnynt fwyaf i fyw. I helpu i arafu'r newid yn yr hinsawdd, mae'n rhaid inni newid yn y ffordd rydym yn teithio.

 

Camwch ymlaen

 

 

 

Yn hytrach na defnyddio'r car, cerdded yw'r dewis gorau a'r rhwyddaf! Cerddwch i'r ysgol. Ewch ar y beic i'r siopau. Byddwch yn teimlo'n fwy ffit ac yn deneuach. Byddwch yn arbed arian a llygredd.

 

Os mai cerdded neu ar y beic ydych chi, pob tro y gadewch y car gartref, byddwch yn helpu i arafu cynhesu byd-eang.

 

Ewch ar y trên!

 

Wrth gwrs, dyw hi ddim yn bosibl cerdded i bobman. Beth am deithiau hirach? Wel, mae defnyddio'r car mor rhwydd, rydym yn aml yn anghofio am y bws neu'r trên. Mae'r rhain fel arfer yn llawer mwy cyfleus, yn enwedig os oes rhaid ichi deithio trwy ddinas fawr, lle mae tagfeydd traffig ac mae parcio yn ddrud iawn.

 

 

 

Mae trenau a bysiau yn drymach na cheir ac mae ganddynt injans mwy. Felly, maent yn defnyddio mwy o danwydd. Fodd bynnag, maent yn cario llawer mwy o deithwyr felly mae'r deuocsid carbon maent yn ei gynhyrchu fesul person yn llawer llai.

 

Rhannwch lifft gyda ffrind

 

Wrth gwrs, weithiau'r car yw'r unig ddewis. Ond, mae o hyd ffyrdd o deithio'n fwy synhwyrol.

 

Pa mor aml ydych chi wedi gyrru i'r dref tu ôl i'ch cymydog? Neu wedi cwrdd â rhywun rydych yn ei adnabod yn y maes parcio?

 

Y tro nesaf rydych yn teithio i gêm bêl-droed, y sinema, neu hyd yn oed ddigwyddiad yn yr ysgol, gofynnwch i'ch ffrind os ydynt am gael lifft. Mae'n llai diflas os oes gennych rywun i rannu'r daith ac mae'ch teuluoedd yn arbed arian.

 

Darganfod gwell ffyrdd o deithio i'ch tref

 

Ledled Ewrop, mae llawer o gynlluniau sy'n helpu i hyrwyddo trafnidiaeth gyhoeddus. Beth am gysylltu â'r cyngor lleol neu asiantaeth ynni i ddarganfod mwy?

 

Os ydych o dan ddeunaw oed, yn aml fe welwch eich bod yn gymwys i deithio am bris llawer llai.

 

Edrychwch ar y cysylltiadau â'r we ar y safle hwn i ddarganfod mwy o wybodaeth am gyfleoedd i deithio a llwybrau beicio.

 

Tanwydd glanach - dyfodol disgleiriach

 

Ar hyn o bryd, mae'r byd wedi defnyddio hanner ei gyflenwad o danwydd ffosil. Fodd bynnag, mae tanwydd newydd yn cael ei ddatblygu. Bydd y rhain yn helpu ein hadnoddau olew i bara yn hirach ac i sicrhau bod gennym gyflenwadau ynni ar gyfer trafnidiaeth yn y dyfodol.

 

Yn y cyfamser, mae gweithgynhyrchwyr yn cynhyrchu ceir newydd arloesol sy'n fwy effeithiol ac sydd ag injan lanach

 

 

 

Uchod, mae llun o'r Toyota Prius a gafodd ei enwebu fel Car Ewropeaidd y Flwyddyn yn 2005. Un o'i nodweddion yw injan electronig/petrol hybrid sy'n rhagorol am arbed ynni.

 

 

 

Yn nhraffig y ddinas, yr injan drydan sy'n cael ei defnyddio, gan helpu i leihau llygredd, ac yn gwella perfformiad yr injan betrol dim ond pan fo'r angen.

 

Yn y dyfodol, bydd amrywiaeth o geir newydd yn cael eu gyrru gan danwydd glanach. Isod mae llun o gar sy'n cael ei yrru gan system hydrogen cyflymder uchel - y Fine-S.

 

 

Defnyddir biodanwyddau - bioddisel a bioethanol fwyfwy yn Ewrop. Gellir eu cynhyrchu o gnydau a'u defnyddio mewn injans safonol.

 

Mae rhai ceir cwbl electronig ar gael nawr. Cyfyng yw'r amrywiaeth sydd ganddynt ond maent yn ateb da i deithio mewn canol dinasoedd gan nad ydynt yn cynhyrchu dim allyriadau*. Posibiliadau eraill ar gyfer tanwydd trafnidiaeth yw hydrogen a chelloedd tanwydd. Eto, mae llawer rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau sydd â chysylltiadau â'r we.

 

*Mae angen ynni i gynhyrchu trydan a hydrogen. Ar hyn o bryd, mae hyn yn debygol i ddod o ffynhonnell tanwydd ffosil. Fodd bynnag, gellir defnyddio defnyddiau adnewyddadwy i gynhyrchu hydrogen a thrydan. Gyda thechnoleg newydd, rhain fydd tanwydd y dyfodol.

 

e-gardiau post

Dewiswch gynllun a'i anfon at ffrind.

y parth gemau

Rhowch brawf ar eich sgiliau gyda gemau ar-lein o bob cwr o'r byd.

lluniau

Edrychwch ar ein galeri luniau ynni rhad ac am ddim.

eich tudalennau

Mae ein ffurflen ar-lein yn gyflym ac yn rhwydd i'w llenwi - dywedwch wrth y byd am eich straeon ar ynni.