girl on bike

tudalen hafan y stori ar ynni newid yn yr hinsawdd fideos ystadegau cysylltiadau â'r we gweithio gydag ynni Flash books

Ynni ar waith!

Pa un o'r myfyrwyr hyn fydd yn helpu i ddiogelu cyflenwad ynni'r blaned yn y dyfodol?

 

group of teenagers

 

Efallai bydd y dyn ar y chwith yn beiriannydd enwog ac yn dyfeisio'r injan fwyaf effeithiol yn y byd.

 

Efallai mai cantores fydd y ferch yn y cefn a bydd hi'n recordio cân ynglŷn â'r amgylchedd sy'n newid calonnau a meddyliau miloedd o bobl.

 

Neu efallai bydd y ferch yn y ffrynt yn arweinydd gwleidyddol pwerus ac yn sicrhau bod ei gwlad hi yn un o'r rhai mwyaf effeithiol o ran arbed ynni yn Ewrop.

 

Mae'r pethau hyn i gyd yn bosibl. Fodd bynnag, y gwir yw na all neb ddatrys problemau ynni'r byd ar eu pen eu hunain.

 

Beth bynnag swydd a gewch ar ôl gadael yr ysgol neu'r coleg, bydd gyda chi ran allweddol i'w chwarae yn diogelu ynni'r blaned!

 

Bydd y car a brynwch, y tŷ y byddwch yn byw ynddo, eich ffordd o fyw, y dewisiadau a wnewch i gyd yn chwarae rhan bwysig wrth benderfynu ar ffawd ein planed.

 

Cofiwch, nid gwers gyffredin yw hon…mae hon yn wers am oes! Mae'r hinsawdd yn newid. Fodd bynnag, rydym i gyd yn gallu rhoi stop ar adfyd yr hinsawdd yn troi'n drychineb i chi a'ch plant. Chi biau'r dewis. Mae'r byd yn eich dwylo chi!

 

I ddarganfod sut gallwch chi wneud gwir wahaniaeth nawr ac yn y dyfodol, ymwelwch â'r tudalennau ar arbed ynni a defnyddiau adnewyddadwy, trafnidiaeth a newid yn yr insawdd. Yna helpwch i rannu'r neges gyda e-gerdyn post!

e-gardiau post

Dewiswch gynllun a'i anfon at ffrind.

y parth gemau

Rhowch brawf ar eich sgiliau gyda gemau ar-lein o bob cwr o'r byd.

lluniau

Edrychwch ar ein galeri luniau ynni rhad ac am ddim.

eich tudalennau

Mae ein ffurflen ar-lein yn gyflym ac yn rhwydd i'w llenwi - dywedwch wrth y byd am eich straeon ar ynni.